Neidio i'r cynnwys

A Ddylwn i Weddïo ar Seintiau?

A Ddylwn i Weddïo ar Seintiau?

Ateb y Beibl

 Na. Mae’r Beibl yn dangos y dylen ni weddïo ar Dduw yn unig, yn enw Iesu. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.’” (Mathew 6:9) Wnaeth ef erioed ddweud wrth ei ddisgyblion i weddïo ar seintiau, angylion, nac unrhyw un heblaw Duw.

 Hefyd, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Fi ydy’r ffordd, . . . yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Dim ond Iesu sydd wedi cael awdurdod gan Dduw i bledio ar ein rhan.—Hebreaid 7:25.

Beth os ydw i’n gweddïo ar Dduw ac ar seintiau hefyd?

 Fel rhan o’r Deg Gorchymyn, dywedodd Duw: “Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.” (Exodus 20:5) Ym mha ffordd mae Duw yn “eiddigeddus”? Gall yr ymadrodd hwn gael ei drosi’n “ymroddiad llwyr.” Mae Duw yn mynnu bod unrhyw fath o addoliad—gan gynnwys gweddi—yn cael ei gyfeirio ato ef yn unig.—Eseia 48:11.

 Rydyn ni’n pechu Duw os ydyn ni’n gweddïo ar unrhyw un arall, hyd yn oed seintiau neu angylion sanctaidd. Pan geisiodd yr apostol Ioan addoli angel, gwnaeth yr angel ei stopio gan ddweud: “Paid! Duw ydy’r unig un rwyt i’w addoli! Un sy’n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a’th frodyr a’th chwiorydd.”—Datguddiad 19:10.