Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Ddylwn i ei Wybod am Chwaraeon?

Beth Ddylwn i ei Wybod am Chwaraeon?

 Gall chwaraeon fod yn dda i ti​—neu yn ddrwg i ti. Mae’n dibynnu ar beth rwyt ti’n ei chwarae, sut rwyt ti’n chwarae, a faint rwyt ti’n chwarae.

 Beth ydy’r buddion?

 Gall ymarfer corff gyfrannu at iechyd da. Mae’r Beibl yn cydnabod: “Mae ymarfer corff yn fuddiol.” (1 Timotheus 4:8) “Mae chwaraeon yn ffordd wych o gadw’n heini,” meddai dyn ifanc o’r enw Ryan. “Mae’n llawer gwell nac aros yn y tŷ yn chwarae gemau fideo.”

 Gall chwaraeon hyrwyddo gwaith tîm a hunanreolaeth. Mae’r Beibl yn defnyddio eglureb wedi ei seilio ar ymarfer corff i ddysgu rhywbeth cadarnhaol inni. Mae’n dweud “bod y rhai sy’n rhedeg mewn ras i gyd yn rhedeg, ond mai un yn unig sy’n derbyn y wobr.” Wedyn mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Mae pob athletwr sy’n cystadlu yn dangos hunanreolaeth ym mhob peth.” (1 Corinthiaid 9:24, 25) Beth ydy’r pwynt? Mae chwarae yn ôl rheolau gêm yn cymryd hunanreolaeth a chydweithrediad. Mae Abigail, sydd yn ei harddegau, yn cytuno. Dywedodd: “Mae chwaraeon wedi fy nysgu i gydweithio a chyfathrebu ag eraill.”

 Gall chwaraeon ein helpu i wneud ffrindiau. Mae gêm yn dod â phobl at ei gilydd. “Mae’r rhan fwyaf o gemau yn galw am ryw fath o gystadlu,” meddai dyn ifanc o’r enw Jordan, “ond os ydych chi’n canolbwyntio ar gael hwyl, gall chwaraeon fod yn ffordd hynod o dda i gryfhau cyfeillgarwch.”

 Beth ydy’r peryglon?

 Beth rwyt ti’n ei chwarae. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn, ond mae’n casáu y rhai drwg a’r rhai sy’n hoffi trais.”—Salm 11:5.

 Mae’n amlwg bod rhai chwaraeon yn dreisgar. Er enghraifft, dywedodd dynes ifanc o’r enw Lauren: “Yr holl bwynt o focsio yw rhoi dyrnod go iawn i’r person arall. A ninnau’n Gristnogion, ’dyn ni’n gwrthod ymladd, felly pam bydden ni’n caniatáu ein hunain i fwynhau gweld rhywun arall yn cael ei gnocio o gwmpas?”

 Rhywbeth i’w ystyried: Wyt ti wedi cyfiawnhau chwarae neu wylio chwaraeon treisgar, drwy feddwl na fydd hynny yn achosi iti fod yn dreisgar? Os felly, cofia fod Salm 11:5 yn dweud bod Jehofa yn erbyn person “sy’n hoffi trais,” nid yn unig yr un sy’n ymddwyn yn dreisgar.

 Sut rwyt ti’n chwarae. Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch â gwneud dim o uchelgais hunanol nac o hunanbwysigrwydd, ond gyda gostyngeiddrwydd ystyriwch bobl eraill yn uwch na chi.”​—Philipiaid 2:3.

 Wrth gwrs, pryd bynnag mae dau dîm neu fwy yn chwarae yn erbyn ei gilydd, mae cystadleuaeth yn codi i ryw raddau. Ond bydd yr agwedd o ennill ar bob cyfri ddim ond yn cymryd yr hwyl allan o’r gêm. “Gall ysbryd cystadleuol gymryd drosodd yn sydyn,” meddai Brian, sydd yn ei arddegau. “Y mwyaf wyt ti’n chwaraewr da, y mwyaf mae rhaid iti weithio ar fod yn ostyngedig.”

 Rhywbeth i’w ystyried: Mae dyn ifanc o’r enw Chris yn cyfaddef, “’Dyn ni’n chwarae pêl droed bob wythnos, ac mae ’na anafiadau wedi bod.” Felly gofynna i ti dy hun, ‘Pa ffactorau sy’n debyg o achosi mwy o anafiadau? Beth alla i wneud i leihau’r risg o gael anaf?’

 Faint rwyt ti’n chwarae. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Gwna’n siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig.’—Philipiaid 1:10.

 Dylet ti osod dy flaenoriaethau, gyda phethau ysbrydol yn gyntaf. Mae’r rhan fwyaf o gemau yn gallu mynd ymlaen am oriau, p’un a wyt ti’n eu chwarae neu’n eu gwylio. “O’n i’n cael dadleuon drwy’r adeg gyda fy mam am faint o amser o’n i’n treulio ar wylio gemau ar y teledu yn hytrach na gwneud rhywbeth pwysicach,” meddai dynes ifanc o’r enw Daria.

Mae rhoi gormod o bwyslais ar chwaraeon yn debyg i roi gormod o halen ar dy fwyd

 Rhywbeth i’w ystyried: Wyt ti’n gwrando ar gyngor dy rieni ynglŷn â dy flaenoriaethau? Mae dynes ifanc o’r enw Trina yn dweud: “Pan oedd fy mrodyr a finnau’n gwylio chwaraeon ar y teledu ac yn anwybyddu gweithgareddau mwy pwysig, byddai mam yn ein hatgoffa bod y chwaraewyr yn cael eu talu p’un a oedden ni’n eu gwylio nhw neu beidio. Yna, byddai hi’n gofyn: ‘Ond pwy sy’n talu chi?’ Beth roedd hynny’n ei olygu oedd: Mae gan y chwaraewyr swyddi. Ond petasen ni’n esgeuluso ein gwaith cartref a chyfrifoldebau eraill, sut bydden ni’n gallu ennill bywoliaeth yn y dyfodol? Yn syml, roedd mam yn dweud wrthon ni na ddylai chwarae na gwylio chwaraeon fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau.”