Neidio i'r cynnwys

Animeiddiadau Bwrdd Gwyn

Mae’r fideos byrion hyn yn trafod pynciau dwys ond maen nhw’n gwneud dysgu’n hwyl!

 

Amddiffynna Dy Hun Rhag Camwybodaeth

Paid â chredu popeth rwyt ti’n ei glywed neu’n ei ddarllen. Dysga sut i wahaniaethu rhwng beth sy’n wir a beth sydd ddim.

Gwna Ddefnydd Da o Dy Arian

Gofala am dy arian nawr fel y bydd yn gofalu amdanat ti yn y dyfodol!

Paid â Gadael i Dy Fywyd Ddiflannu Mewn Mwg

Er bod llawer o bobl yn ysmygu ac yn fepio, mae eraill wedi rhoi’r gorau iddi ac mae eraill yn ymdrechu’n galed i stopio. Pam? Ydy ysmygu mor ddrwg â hynny?

Gemau Fideo: Wyt Ti Wir yn Ennill?

Mae gemau fideo yn gallu bod yn hwyl, ond gallan nhw hefyd ddod â risgiau. Sut gelli di osgoi’r maglau ac ennill go iawn?

O Galon Drom i Galon Lon

Beth gelli di wneud pan fydd tristwch yn dy lethu di?

Beth Ddylet Ti Wybod am Chwaraeon?

Gall chwaraeon ddysgu sgiliau pwysig iti, fel cydweithredu a chyfathrebu. Ond a ddylai chwaraeon fod yn un o’r pethau pwysicaf yn dy fywyd?

Ystyried Cyn Yfed

O dan ddylanwad alcohol, mae llawer yn dweud a gwneud pethau maen nhw’n eu difaru wedyn. Sut gelli di amddiffyn dy hun rhag y trwbl a’r perygl mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi?

Sut Galla’ i Siarad â Fy Rhieni?

Sut gelli di gyfathrebu gyda dy rieni os dwyt ti ddim yn teimlo fel siarad?

Pwy Sy’n Rheoli—Ti Neu Dy Ddyfeisiau?

Efallai dy fod ti’n byw mewn byd electronig, ond does dim rhaid iddo dy reoli. Sut wyt ti’n gwybod os wyt ti’n gaeth i dy ddyfais? Os oes ’na broblem, sut gelli di adennill rheolaeth?

Sut Galla’ i Ennill Mwy o Ryddid?

Rwyt ti’n teimlo’n barod i gael dy drin fel oedolyn, ond ydy dy rieni’n cytuno? Pa gamau elli di eu cymryd i ennill eu hyder?

Sut Galla’ i Osgoi Hel Clecs?

Os bydd clecs niweidiol yn sleifio i mewn i’r sgwrs, gwna rywbeth amdani!

Gwir Gariad neu Gariad Ffôl?

Dysga ystyr cariad ffôl a gwir gariad.

Gwrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion

Dyma bedwar cam iti fagu’r hyder i wneud dy benderfyniadau dy hun.

Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein

Cael hwyl a bod yn ddiogel pan wyt ti’n cysylltu â dy ffrindiau ar-lein.

Beth Yw Ffrind Go Iawn?

Mae’n hawdd i gael ffrindiau ffals, ond sut gallet ti ddarganfod ffrind go iawn?

Curo Bwli Heb Ddefnyddio Dy Ddyrnau

Dysgu pam mae bwlio’n digwydd a sut i ymdopi dan straen.